Carw coch
Gwedd
| Carw coch | |
|---|---|
| Carw coch (gwrywaidd) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Artiodactyla |
| Teulu: | Cervidae |
| Is-deulu: | Cervidae |
| Genws: | Cervus |
| Rhywogaeth: | C. elaphus |
| Enw deuenwol | |
| Cervus elaphus Linnaeus, 1758 | |
| Dosbarthiad daearyddol ail-greu diweddar | |
Un o'r rhywogaethau ceirw mwyaf yw'r carw coch (Cervus elaphus). Mae i'w gael ledled Ewrop, cyn belled â rhanbarth Mynyddoedd y Cawcasws, Asia Leiaf, Iran, a rhannau o orllewin Asia. Mae hefyd i'w gael ym Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica: dyma'r unig rywogaeth o geirw sy'n frodorol yn Affrica. Mae ceirw coch wedi’u cyflwyno i rannau eraill o’r byd, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Canada, Periw, Wrwgwái, Tsile a’r Ariannin. Ym Mhrydain ceir y rhan fwyaf o geirw coch ar rostiroedd agored Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban, er bod poblogaethau gwasgaredig i'w cael mewn mannau eraill yng Nghymru, Lloegr, ac Iwerddon.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Red Deer" Archifwyd 2024-07-08 yn y Peiriant Wayback, Gwefan The Mammal Society; adalwyd 1 Chwefror 2023